Mae Uchelgais Gogledd Cymru a Thyfu Canolbarth Cymru ar hyn o bryd yn ceisio diffinio lleoliadau blaenoriaeth ar draws ein rhanbarthau sydd angen gwelliannau i ddarpariaeth 4G.

Mae ein cais ar y cyd am wybodaeth yn nodi cam cyntaf y prosiectau canlynol:

  • Uchelgais Gogledd Cymru - mae’r prosiect Safleoedd a Choridorau Allweddol Cysylltiedig yn anelu at wella argaeledd gwasanaethau data a llais symudol a gwasanaethau band eang ffibr-llawn i safleoedd masnachol allweddol ar draws y rhanbarth.
  • Tyfu Canolbarth Cymru - mae'r prosiect Sylw a Chapasiti Symudol yn canolbwyntio'n bennaf ar ddarpariaeth llais symudol a data ar draws y rhanbarth. 

Nod y ddau brosiect - darparu gwasanaeth 4G ledled Gogledd a Chanolbarth Cymru gan bob un o'r pedwar Gweithredwr Rhwydwaith Symudol (MNOs), mae hyn yn cynnwys dan do, awyr agored ac mewn cerbydau mewn lleoliadau allweddol ar hyd coridorau trafnidiaeth ac mewn safleoedd busnes a thwristiaeth.

Cais am Wybodaeth - mae ein cais am wybodaeth wedi’i anelu’n bennaf at Weithredwyr Rhwydwaith Symudol a darparwyr seilwaith a gwasanaethau symudol, fodd bynnag anogir aelodau o’r cyhoedd sydd â diddordeb i ymateb hefyd – yn enwedig i gwestiwn 4.

Y dyddiad cau ar gyfer ymateb yw 15 Tachwedd 2024.

Gall pawb sydd â diddordeb mewn ymateb lawrlwytho y ddogfen ‘Prosiect 4G: Cais am Wybodaeth’ isod.

Gall Gweithredwyr Rhwydwaith Symudol a darparwyr seilwaith a gwasanaethau symudol hefyd weld manylion trwy: