Bydd buddsoddiad sydd bellach wedi cael ei gymeradwyo yn sicrhau offer a gofod labordy yn y Ganolfan Biotechnoleg Amgylcheddol + (CEB+), ac yn golygu y bydd yn symud ymlaen i gael ei weithredu. 

Daw hyn yn dilyn cymeradwyo'r achos cyfiawnhad busnes ar gyfer y prosiect CEB+ gan Fwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru - gan sicrhau cyllid o Gynllun Twf y rhanbarth.    

Bydd y prosiect yn ymchwilio i ensymau unigryw a'r defnydd posib ohonynt fel cynhyrchion a phrosesau fydd yn cael llai o effaith ar yr amgylchedd na deunyddiau cyfredol a chemegau diwydiannol. Bydd y cyfleuster newydd yn caniatáu i'r rhai sy'n cydweithio ar hyn i edrych ar yr ensymau a'r defnydd o brosesau biolegol fel dewisiadau carbon isel amgen.  
 
Yn ogystal, bydd y cyfleuster newydd sydd wedi'i leoli ar safle Henfaes Prifysgol Bangor, yn creu cyfleoedd cyflogaeth newydd yn y rhanbarth.  Gyda'r potensial i greu hyd at 65 o swyddi newydd, cynhyrchu hyd at £15m net o GVA ychwanegol ac uwchsgilio busnesau, mae effaith y Ganolfan yn anelu at fod yn drawsnewidiol i Ogledd Cymru.   

quotation graphic

Meddai'r Cynghorydd Dyfrig Siencyn, Aelod Arweiniol ar gyfer y rhaglen Arloesi mewn Gweithgynhyrchu Gwerth Uchel a Chadeirydd Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru:

"Mae'r Bwrdd Uchelgais Economaidd yn falch bod y prosiect CEB+ wedi cyrraedd y cam hwn, drwy sicrhau arian gan y Cynllun Twf. Unwaith y bydd y ganolfan yn weithredol, nid yn unig y bydd yn cyflawni buddion amgylcheddol, ond bydd hefyd yn darparu cyfleoedd i'r cadwyni cyflenwi a chyflogaeth ar gyfer busnesau a thrigolion ledled y rhanbarth. Nawr, rydym yn edrych ymlaen at y cerrig milltir nesaf - wrth i waith fynd rhagddo mor gynnar â'r mis nesaf, a'r dyddiad cwblhau wedi'i amserlennu ar gyfer 2025." 

quotation graphic
quotation graphic

Meddai Michael Flanagan, Prif Swyddog Gweithredu, Prifysgol Bangor:

Mae Prifysgol Bangor yn cael ei chydnabod fel sefydliad arweiniol yn y DU o ran gwaith ymchwil a datblygu ym maes biotechnoleg amgylcheddol.  Mae CEB+ yn gobeithio atgyfnerthu’r enw da yma drwy gefnogi datblygiad ac ymchwil i dros 1,000 o ensymau i greu dewisiadau carbon isel amgen i brosesau gweithgynhyrchu. Edrychwn ymlaen i gydweithio â phartneriaid presennol a newydd." 

quotation graphic
quotation graphic

Meddai Ken Skates, Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru:

"Mae'n wych gweld y prosiect arloesol a chyffrous hwn yn cymryd cam arall ymlaen, gyda chefnogaeth ariannol gan Gynllun Twf Gogledd Cymru.  Bydd hyn yn atgyfnerthiad pellach o enw da Prifysgol Bangor yn y maes gwaith ymchwil a datblygu, sy'n newyddion da i'r rhanbarth ehangach."  

quotation graphic
quotation graphic

Meddai Nia Griffith, Gweinidog Swyddfa Cymru:

"Mae'n rhagorol gweld Llywodraeth y DU yn cefnogi gwaith ymchwil a datblygu sydd ar flaen y gad ym Mhrifysgol Bangor. Bydd y cyfleuster hwn yn gyfraniad pwysig i economi Gogledd Cymru, a bydd yn gwneud gwaith ymchwil biotechnoleg fydd yn cynorthwyo i leihau effaith amgylcheddol rhai prosesau diwydiannol." 

quotation graphic

Mae'r prosiect CEB+ yn un o dros 20 prosiect ym mhortffolio Cynllun Twf Gogledd Cymru. Mae'r Cynllun Twf yn gytundeb fydd yn cynhyrchu cyfanswm buddsoddiad o dros £1 biliwn i Ogledd Cymru, gan greu hyd at 4000 o swyddi newydd a chynyddu GVA o £2.4 biliwn.